Córdoba
Oddi ar Wicipedia
Córdoba - y bont Rufeinig a'r mosg-eglwys dros Afon Guadalquivir
-
- Am y ddinas o'r un enw yn yr Ariannin, gweler Córdoba; am y dalaith yn yr Ariannin, gweler Talaith Córdoba (Ariannin)
Mae Córdoba (neu Cordova) yn ddinas hynafol yn nhalaith Andalwsia yn ne Sbaen, ar lannau Afon Guadalquivir.
Hanes [golygu]
Cafodd ei gwneud yn brifddinas y Sbaen Mwraidd yn y flwyddyn 756 ac erbyn y 10fed ganrif roedd wedi tyfu i fod y ddinas fwyaf yn Ewrop ac yn ganolfan ddiwylliant unigryw. Mosg oedd yr eglwys gadeiriol fawreddog sy'n sefyll yng nghanol y ddinas heddiw yn wreiddiol.
Mae ei diwydiannau traddodiadol yn cynnwys arianwaith a brodwaith.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Alcázar de los Reyes Cristianos
- Eglwys Gadeiriol (Mosg Fawr)
- Mausoleum
- Pont San Rafael
- Tŵr Calahorra
- Tŵr Donceles
Enwogion [golygu]
- Marcus Annaeus Lucanus (39-65), bardd
- Averroes (1126-1198), athronydd
- Paco Peña (g. 1942), cerddor
- Joaquín Cortés (g. 1969), dawnswr