Bwlch Talyllyn

Oddi ar Wicipedia
Bwlch Talyllyn
Mathbwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.702604°N 3.851621°W Edit this on Wikidata
Map
Bwlch Talyllyn

Bwlch rhwng Dolgellau a Llyn Talyllyn, ger Tywyn, Gwynedd yw Bwlch Talyllyn.

Mae pen uchaf y bwlch yn cysylltu Machynlleth â Dolgellau â ffordd yr A487, ac mae hefyd ffordd arall (B4405) yn fforchio i ffwrdd i lawr i Dywyn. Cwm Rhwyddfor sydd uwchben Bwlch Talyllyn a cheir gwersyll yn y gwaelod.

Mae llethrau Cader Idris ar un ochr i'r Bwlch, ac yma mae llwybr Minffordd yn dechrau i fyny'r mynydd. Ac ar yr ochr arall ceir mynydd o'r enw Craig y Llam, ac arno graig yn pwyso yn fertigol ar un arall yn union fel person, ac enw hwn yw'r 'Pregethwr yn y Pulpud'.