Bruce Chatwin

Oddi ar Wicipedia
Bruce Chatwin
Ganwyd13 Mai 1940 Edit this on Wikidata
Sheffield Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ionawr 1989 Edit this on Wikidata
Nice Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, awdur, newyddiadurwr, teithiwr Edit this on Wikidata
Arddullnofel, Llenyddiaeth teithio Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadEvelyn Waugh, Jerome K. Jerome, Robert Byron, Jorge Luis Borges Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Goffa James Tait Black, Gwobr E. M. Forster, Gwobr Hawthornden Edit this on Wikidata

Nofelydd ac awdur llyfrau taith o Loegr oedd Charles Bruce Chatwin (13 Mai 1940 - 18 Ionawr 1989).

Ganed Chatwin yn Sheffield, a threuliodd ei ieuenctid yn West Heath, ger Birmingham. Addysgwyd ef yng Ngholeg Marlborough. Bu'n gweithio i gwmni Sotheby's am gyfnod, cyn ymddiswyddo i astudio archaeloeg ym Mhrifysgol Caeredin. Gadawodd y brifsgol heb gymeryd gradd.

Teithiodd i Batagonia yn niwedd 1974, a threuliodd chwe mis yno, yn cynnwys ymweliad a'r Wladfa. Cyhoeddodd lyfr taith In Patagonia yn 1977. Enillodd Wobr Goffa James Tait am ei nofel On the Black Hill (1982), hanes dau frawd, Lewis a Benjamin Jones, oedd yn ffermio ar y Mynydd Du.

Gweithiau[golygu | golygu cod]