Bras eurben
Bras eurben Zonotrichia atricapilla | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Emberizidae |
Genws: | Zonotrichia[*] |
Rhywogaeth: | Zonotrichia atricapilla |
Enw deuenwol | |
Zonotrichia atricapilla | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Bras eurben (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: breision eurben) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Zonotrichia atricapilla; yr enw Saesneg arno yw Golden-crowned sparrow. Mae'n perthyn i deulu'r Breision (Lladin: Emberizidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn Z. atricapilla, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Mae maint a lliw ei chlytiau corun yn helpu i bennu statws aderyn ymhlith ei gymrhreiriaid. Yn mesur 15–18 cm (6–7 modfedd) o hyd gyda lled adenydd o 24.75 cm (9.74 modfedd) ac yn amrywio o 19.0 i 35.4 g (0.67 i 1.25 owns) yn bwysau, mae'r bras eurben o gymharu â golfannod a breision llawndwf yn weddol fawr. Fel pob un o'r genws Zonotrichia, mae ganddo gynffon weddol hir, blaen sgwâr a chorun ychydig yn gopaog. Mae gwisg gwrywod a benywod yn debyg o ran eu plyfwisg, er bod gwrywod ar gyfartaledd ychydig yn fwy na rhai benyw. Heblaw am wegil llwyd plaen, mae rhannau uchaf yr oedolyn yn frown-lwyd, gyda rhediadau brown-ddu llydan ar y cefn a'r ysgwyddau, a chrwmp ddi-strwyth. Mae ei rannau isaf yn llwyd, ychydig yn oleuach ar y bol ac yn fwy melynfrown ar yr ochrau. Mae ei adenydd a'i gynffon yn frown, ac mae'n dangos dau far gwyn ar ei adenydd. Mae ei goesau'n frown golau, a'i big yn dywyll, gyda'r mandibl uchaf yn dywyllach na'r isaf. Mae ei iris yn frown.
Yn y tymor magu, mae gan adar y to gorun aur streipen ganol felen lydan sy'n troi'n llwyd golau tuag at gefn y pen.
Teulu[golygu | golygu cod]
Mae'r bras eurben yn perthyn i deulu'r Breision (Lladin: Emberizidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Bras adeingoch | Peucaea carpalis | |
Bras adeinwyn | Calamospiza melanocorys | |
Bras rhesog | Oriturus superciliosus | |
Pila Ynys Cocos | Pinaroloxias inornata | |
Pila cribgoch y De | Coryphospingus cucullatus | |
Pila cribgoch y Gogledd | Coryphospingus pileatus | |
Pila troedfawr | Pezopetes capitalis | |
Twinc gwair plaen | Tiaris obscurus | |
Twinc gwair tywyll | Tiaris fuliginosus | |
Yellow-faced grassquit | Tiaris olivaceus |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.