Blanche (locomotif)

Oddi ar Wicipedia
Blanche
Enghraifft o'r canlynolnarrow gauge locomotive Edit this on Wikidata
Rhan oLocomotifau'r Dosbarth Prif Lein Penrhyn Edit this on Wikidata
PerchennogRheilffordd Ffestiniog Edit this on Wikidata
GwneuthurwrCwmni Hunslet Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthGwynedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Blanche yn locomotif tanc cyfrwy 2-4-0, yn gweithio ar Reilffordd Ffestiniog.

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y locomotive, yn wreiddiol gyda threfniant olwynion 0-4-0, gan Gwmni Hunslet ym 1893 ar gyfer Rheilffordd Chwarel Penrhyn. Costiodd £800, un o dri locomotif gyda Linda a Charles. Enwyd y locomotif ar ôl Blanche Georgina Fitzroy, gwraig Barwn Penrhyn. Cafodd bocs tân newydd ym 1920 a boeler newydd ym 1925. Cafodd boeler arall (oddi wrth ‘Linda’) a bocs tân newydd ym 1939. Cafodd tanc newydd ym Medi 1949 a boeler arall ym 1956. Tynnodd y trên olaf ar brif lein y chwarel ar 27 Gorffennaf 1962. Prynwyd Blanche gan Reilffordd Ffestiniog am £2000 ym 1963, a chyrhaeddodd y rheilffordd ar 17 Rhagfyr. Gwnaethpwyd sawl newid i’r locomotif gan gynnwys addasiad i’r olwynion i ffitio lled y trac, modfedd ehangach nac yn Chwarel Penrhyn. Estynnwyd cab y locomotif ac ei beintiwyd yn wyrdd ym 1965. Cafodd Blanche bocs tân newydd, ac addaswyd y locomotif i ddefnyddio olew ym 1971. Ailadeiladwyd y locomotif i fod yn locomotif tanc cyfrwy 2-4-0 efo tendar. Atgyweiriwyd Blanche ym 1983 a 1988, gan gynnwys tanc cyfrwy newydd ym 1988. Gweithiodd Blanche ar Reilffordd Eryri rhwng Dinas a Chaernarfon ym 1999. Roedd angen gwaith ar y boeler yn 2003, ond roedd rhaid codi pres. Daeth y locomotif yn ôl at ei waith ym Mai 2005. Ailbeintiwyd o yn 2011. Daeth ei dystysgrif boeler i ben eto yn 2016. Newidiwyd pâr o olwynion hefyd, ac ailadeiladwyd y locomotif erbyn Tachwedd 2016.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]