Baner Ynysoedd Solomon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Ynysoedd Solomon FIAV 111000.svg

Mabwysiadwyd baner Ynysoedd Solomon ar 18 Tachwedd, 1977, blwyddyn ar ôl ennill hunanlywodraeth ond blwyddyn cyn ennill annibyniaeth ar y Deyrnas Unedig. Caiff ei rhannu'n groesgornel gan streipen felen sy'n cynrychioli heulwen yr ynysoedd. Mae'r ddau driongl a ffurfir gan y streipen yn las a gwyrdd i gynrychioli dŵr a thir. Yn wreiddiol, bu'r pum seren wen yn cynrychioli pum rhandir y wlad. Yn hwyrach rhannwyd yr ynysoedd yn saith rhandir felly newidwyd symbolaeth y sêr i gyfeirio at y pum prif grŵp o ynysoedd.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)


Oceania.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am Oceania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill