Baner Taleithiau Ffederal Micronesia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Taleithiau Ffederal Micronesia FIAV 110110.svg

Maes glas golau (i gynrychioli'r Môr Tawel) gyda phedair seren wen (i gynrychioli'r bedair grŵp o ynysoedd, sef taleithiau'r ffederasiwn: Chuuk, Kosrae, Pohnpei, ac Yap) yn y canol, wedi'u gosod fel pwyntiau'r cwmpawd, yw baner Taleithiau Ffederal Micronesia. Cyn annibyniaeth yn 1979 roedd Micronesia'n rhan o Ymddiriedolaeth Tiriogaeth Ynysoedd y Môr Tawel y Cenhedloedd Unedig, a weinyddwyd gan yr Unol Daleithiau; mae lliwiau'r faner yn debyg i liwiau baner y CU, a'r syniad o bob seren yn cynrychioli talaith yn debyg i bob seren ar faner yr UD yn cynrychioli talaith. Mabwysiadwyd ar 30 Tachwedd, 1978.

Ffynonellau[golygu]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)