Baner Awstralia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Awstralia FIAV 111010.svg

Mae gan faner Awstralia Jac yr Undeb yn y canton (sy'n cofio cysylltiadau trefedigaethol y wlad â Phrydain) a phump seren wen – i gynrychioli'r cytser Crux (y Groes Ddeheuol) fel mae'n ymddangos o Awstralia – a seren wen fwy ar wahân, ar faes glas. Mae gan bob un o sêr y groes saith pwynt, ar wahân i'r un lleiaf (Epsilon Crucis) sydd â phump. O dan Jac yr Undeb mae seren fawr (Seren y Gymanwlad) i gynrychioli aelodau'r ffederasiwn. Yn wreiddiol, bu chwe phwynt ar gyfer y chwe thalaith ffederal; ychwanegwyd y seithfed pwynt yn 1909 i gynrychioli'r Diriogaeth Ogleddol.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Australia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill