Baner Burkina Faso

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Burkina Faso FIAV 111000.svg

Baner ddeuliw lorweddol, gyda stribed uwch coch a stribed is gwyrdd, â seren felen yn ei chanol yw baner Burkina Faso.

Mabwysiadwyd y faner ar 4 Awst 1984, y diwrnod newidodd enw y wlad o Weriniaeth y Folta i Burkina Faso, ac yn union un flwyddyn ar ôl y chwyldro a ddaeth â Thomas Sankara i rym. Mae coch, melyn, a gwyrdd yn lliwiau pan-Affricanaidd; yn ogystal, mae coch yn symboleiddio chwyldro 1983, gwyrdd yn cynrychioli cyfoeth y wlad o adnoddau naturiol, a dywed taw seren arweiniol y chwyldro sydd yng nghanol y faner.

[golygu] Gweler hefyd

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill