BMA Cymru Wales
Mae BMA Cymru Wales yn undeb llafur i feddygon yng Nghymru.
Pwrpas[golygu | golygu cod]
Yn ôl BMA Cymru Wales, maent yn gweithio i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth Gymreig drwy'r canlynol:
- gofyn am farn aelodau i ymateb i ymgynghoriadau ac ymchwiliadau gan Lywodraeth Cymru, pwyllgorau’r Senedd a sefydliadau eraill
- ymgysylltu’n rheolaidd ag Aelodau Seneddol, pwyllgorau’r Senedd a grwpiau trawsbleidiol
- mae eu gwaith polisi a llais cyfunol eu haelodau yn llywio gwaith dadleuon yr Aelodau Seneddol a’r Senedd
- mae eu cynrychiolwyr yn rhoi tystiolaeth i bwyllgorau’r Senedd a grwpiau trawsbleidiol er mwyn dylanwadu ymhellach ar bolisi.[1]
Ymgyrchoedd[golygu | golygu cod]
Ym mis Medi 2023, ysgrifennodd BMA Cymru at y gweinidog iechyd Eluned Morgan ar ran meddygon iau yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gan rybuddio Llywodraeth Cymru i ddisgwyl streicio ynglŷn â thal.[2]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Welsh Parliament - Senedd Cymru". The British Medical Association is the trade union and professional body for doctors in the UK. (yn Saesneg). 2022-08-01. Cyrchwyd 2023-12-09.
- ↑ "Meddygon iau yn rhybuddio Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer cyfnod o streicio". newyddion.s4c.cymru. 2023-12-09. Cyrchwyd 2023-12-09.