Asid carbocsylig
Oddi ar Wicipedia
Asid organig gyda'r grŵp carbocsyl a'r fformiwla gemegol: -C(=O)OH, a fynegir fel arfer fel -COOH neu -CO2H [1] yw asid carbocsylig. Mae asidau carbocsylig yn asidau sy'n ffitio diffiniad Damcaniaeth Brønsted-Lowry; maent yn rhyddhau protonau. Mae halenau ac anionau asidau carbocsylig yn cael eu galw'n "carbocsyladau". Rhain yw'r asidau organig cryfaf o ganlyniad i sefydlogrwydd yr anion carbocsylad lle mae'r electronau (ac felly'r wefr negyddol) yn cael eu dadleoli rhwng y ddau atom ocsigen electronegyddol. Mae asidau carbocsylig mewn hydoddiant dyfrllyd felly'n sefydlu'r ecwilibriwm canlynol:
R-COOH + H2O ⇌ R-COO- + H3O+
Yr asidau carbocsylig symlaf yw'r asidau alcanoig, R-COOH, lle mae R yn cynrychioli hydrogen neu grŵp alcyl.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Compendium of Chemical Terminology, carboxylic acids
[golygu] Dolenni allanol:
- (Saesneg)Synthesis asidau carbocsylig - Collection of links pertaining to synthesis of Carboxylic acid
- (Saesneg)pH asidau carbocsylig a thitradiad: - freeware for calculations, data analysis, simulation, and distribution diagram generation