Asid sitrig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Moleciwl asid sitrig
Fformiwla asid sitrig

Asid gwan ydy asid sitrig neu asid citrig, sydd hefyd yn asid organig, a ddefnyddir yn aml i roi blas sur ar fwyd a diodydd meddal ac i brisyrfio bwyd yn naturiol. Mae'n gweithio fel gwrthocsidant ac mae ganddo briodweddau naturiol i lanhau o amgylch y cartref ayb.

Mae gan lemon a leim, a gweddill y teulu o ffrwythau sitrig ganran uchel iawn o asid sitrig ynddynt.

Priodweddau[golygu]

Crisialau o asid sitrig mewn golau wedi'i bolareiddio, gyda'r llun wedi'i chwyddo x200

Dan amgylchiadau cyffredin, powdwr o grisialau ydy asid sitrig ac nid hylif. Mae'n perthyn i'r teulu o asidau a elwir asid carbocsylig. Pan gaif ei gynhesu'n uwch na 175 °C, mae'n dadelfennu o ganlyniad ei fod wedi colli carbon deuocsid a moleciwlau dŵr. Oherwydd ei briodweddau naturiol, caiff ei ddefnyddio'n aml fel ychwanegiad at fwydydd megis diodydd meddal, cwrw a seltzer.

Science-template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.