Chwydu
Oddi ar Wicipedia
Mae "cyfogi" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Am y teimlad cyn chwydu, gweler cyfog.
Ymwthiad grymus o gynnwys y stumog trwy'r ceg a weithiau trwy'r trwyn yw chwydu neu gyfogi. Gelwir y cynnwys a ymwthir o'r corff yn chwŷd neu gyfog. Mae cyfog hefyd yn golygu'r teimlad o anesmwythder sydd yn aml yn rhagflaenu chwydu. Mae gan chwydu nifer o achosion, ac mae'n symptom o nifer o gyflyrau meddygol.