Arcadia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arcadia


Mae Arcadia (Groeg: Αρκαδία) yn ardal yn y Peloponnesos yn rhan ddeheuol Gwlad Groeg; yn y cyfnod modern mae'n "Nomos" (Νομός), un o brif raniadau Groeg. Daw'r enw o'r cymeriad mytholegol Arcas. Y brifddinas yw Tripoli.

Ardal wledig a mynyddig yw Arcadia, ac yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif bu diboblogi yn broblem; disgwylid y byddai'r boblogaeth yn haneru rhwng 1951 a dechrau'r 21ain ganrif, gyda llawr o'r trigolion yn ymfudo i gyfandir America.

Yn llenyddiaeth y cyfnod clasurol, daeth Arcadia i gael ei hystyried fel rhyw fath ar baradwys wledig, gyda bugeiliaid yn byw yn syml ac yn hapus; er enghraifft gan Fyrsil yn ei Eclogau, ac yn ddiweddarach gan Jacopo Sannazaro yn ei fugeilgerdd Arcadia (1504). Roedd cyswllt arbennig rhwng Arcadia a'r duw Pan. Mae ymadrodd Lladin Et in Arcadia ego ("Rwyf yn Arcadia hefyd") yn esiampl o memento mori, rhywbeth sy'n atgoffa am freuder bywyd a sicrwydd marwolaeth. Mae'r ymadrodd yn ymddangos ar fedd yn y darlun "Bugeiliaid Arcadia" gan Nicolas Poussin (1647).