Pan (duw)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pan
Pan yn dysgu'i eromenos, y bugail Daphnis, i chwarae'r pibellau-pan. Copi 2il ganrif Oes Gyffredin Rufeinig o Roeg gwreiddiol tua 100 Cyn yr Oes Gyffredin, a briodolwyd i Heliodorus (darganfuwyd ym Mhompeii)
Pan yn dysgu'i eromenos, y bugail Daphnis, i chwarae'r pibellau-pan. Copi 2il ganrif Oes Gyffredin Rufeinig o Roeg gwreiddiol tua 100 Cyn yr Oes Gyffredin, a briodolwyd i Heliodorus (darganfuwyd ym Mhompeii)
Preswylfa Arcadia
Rhieni Hermes a Penelope
Plant Panes
Cywerthydd Rhufeinig Faunus
Y duw Pan
Am y lloeren sy'n cylchdroi Sadwrn, gweler Pan (lloeren).

Roedd Pan (Groeg, Πάν, y cyfan) yn dduw ym mytholeg Roeg. Roedd ganddo dorso a phen dynol gyda chlustiau, cyrn a choesau gafr.

Cafwyd Pan ei addoli yn arbennig yn Arcadia, er nad oedd temlau mawr iddo yn yr ardal. Roedd yn dduw coedwigoedd, caeau a phreiddiau, ffrwythlonrwydd a gwrywdod. Dywedir ei fod yn ymlid y nymffod yn y coedydd, gan obeithio cael cyfathrach rywiol â hwy. Mewn rhai ffyrdd mae'n debyg i'r duw Dionisus ac roedd yn aml yng nghwmni'r duw hwnnw.

Roedd hefyd yn dduw'r awel, y wawr a'r machlud. Yr oedd yn byw gyda'r nymffod mewn ogof o'r enw Coriciana ar fynydd Parnassus. Gallai broffwydo'r dyfodol ac roedd yn heliwr a cherddor. Canai'r Siringa neu Bibellau Pan.

Cyn Brwydr Marathon dywedir fod y rhedwr Athenaidd Pheidippides yn rhedeg trwy'r mynyddoedd rhwng Athen a Sparta i ofyn cymorth y Spartiaid yn erbyn y Persiaid. Ar y ffordd cafodd weledigaeth o'r duw Pan, a ddaroganodd fuddugoliaeth i'r Groegwyr yn erbyn Persia. Wedi ennill y frwydr gwnaeth yr Atheniaid Pan yn un o'u prif dduwiau mewn diolchgarwch.

Yn ôl yr hanesydd Groegaidd Plutarch (Moralia, Llyfr 5:17)), yr oedd llongwr o'r enw Thamus ar ei ffordd tua'r Eidal yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Rhufeinig Tiberius. Ger ynys Paxi clywodd lais dros y tonnau "Thamus, wyt ti yna? Pan gyrhaeddi Palodes, gwna'n siŵr dy fod yn cyhoeddi fod y duw mawr Pan wedi marw". Gwnaeth Thamus yn ôl y gorchymyn, a daeth ocheneidiau a galaru o'r lan yn ymateb.

Neo-baganiaeth[golygu]

Ym 1933, cyhoeddwyd The God of the Witches gan Eifftiwr Margaret Murray, gan ddamcaniaethu mai dim ond ffurf o dduw corniog a addolwyd ar draws Ewrop gan gwlt gwrach yw Pan.[1] Dylanwadodd y theori hon y syniad Neo-baganaidd o Dduw Corniog, fel archdeip rhywioldeb a gwrywdod gwrywaidd. Yn Wica, mae archdeip y Duw Corniog yn hynod o bwysig, fel y'i cynrychiolwyd gan dduwdodau megis Cernunnos y Celtiaid a Pashupati yr Indianaid.

Rhoddir adroddiad diweddar o sawl cyfarfod a honnwyd â Pan gan Robert Ogilvie Crombie yn The Findhorn Garden (Harper & Row, 1975) a The Magic Of Findhorn (Harper & Row, 1975). Dywedodd Crombie y cwrddodd ef â Pan yn sawl gwaith mewn llefydd gwahanol yn yr Alban, gan gynnwys Edinburgh, ar ynys Iona ac yn Sefydliad Findhorn.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft, Ronald Hutton, tudalen 199
  • . 
  • . 
  • . ISBN 0-89089-575-9. 
  • . 
  • Vinci, Leo (1993), Pan: Great God Of Nature, Neptune Press, Llundain
  • Malini, Roberto (1998), Pan dio della selva, Edizioni dell'Ambrosino, Milano
  • Diotima, (2007), ' 'The Goat Foot God, Bibliotheca Alexandrina

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: