Andrés Segovia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Andrés Segovia (1963)

Gitarydd clasurol o Sbaen oedd Andrés Torres Segovia, Marcwis 1af Salobreña (21 Chwefror 1893 - 2 Mehefin 1987). Ystyrir ef yn dad y mudiad ceddoriaeth gitar clasurol modern.

Ganed Andrés Segovia yn Linares, Sbaen, a dywedodd ef ei hun iddo ddechrau canu'r gitar yn chwech oed. Yn ei arddegau, symudodd i Granada, lle bu'n astudio'r gitar. Dywed i'r Alhambra gael dylanwad mawr arno. Rhoddodd ei berfformiad cyntaf yn Madrid pan oedd yn 16 oed. Parhaodd i berfformio hyd cyrraedd ei 80au.

Yn 1981 gwnaeth y Brenin Juan Carlos I ef yn Farcwis Salobreña. Bu farw ym Madrid yn 94 oed.

Flag of Spain.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaenwr neu Sbaenes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill