Gitâr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gitar)
Neidio i: llywio, chwilio

Offeryn gyda llinynau yw gitâr.

Gitâr acwstig[golygu]

Mae gitâr acwstig wedi ei wneud o bren, gydag un twll crwn yng nghanol ei gorff. Pwrpas y twll yw cynhyrchu sŵn uchel drwy chwyddo'r sŵn. Mae pob un o'r chwe tant yn ffurfio nodyn gwahanol a ddynodir gyda'r symbolau: E A D G B E.

Pan dynnir y llinynnau mae nhw'n dirgrynnu a dyna sy'n creu'r sŵn. Defnyddir gitâr acwstig mewn cerddoriaeth werin a chanu gwlad, cerddoriaeth glasurol ac mewn rhai mathau o ganu pop.

Mae yna wahanol fathau o gitarau acwstig e.e gitar acwstic tannau neilon a gitar acwstic tannau dur.

Gitâr drydan[golygu]

Mae'r gitâr drydan fel arfer wedi ei greu o bren neu blastig. Yn lle twll yn y canol, mae gan gitâr drydan "pickups" sef synhwyrydd electronig tebyg i feicroffôn i godi'r sŵn. Mae'r synhwyryddion hyn yn casglu'r cryndodau yn y maes magnetig a'u chwyddo. Rhai o nodweddau ychwanegol gitâr drydan yw "distortion" ac "overdrive".

Defnyddir gitâr drydan mewn cerddoriaeth canu gwlad, roc (a roc trwm) a pop.

Cafodd y gitâr drydan gyntaf ei greu yn yr 1930au cynnar, fel "lap steel".

Gitâr fas[golygu]

Mae gan gitâr fas bedair, pump neu chwech tant. Y gitâr sy'n alaw am bedwar (neu fwy) nodyn gwahanol: E A D G. (Ar y gitâr fas gyda phum llinyn: B E A D G; gyda chwe llinyn: B E A D G C). Mae gitâr fas yn debyg i'r gitâr drydan weithiau, ond mae gitâr fas acwstig yn bodoli.

Mae gan y gitâr fas ddau fath o synhwyrydd sef y "P-pickup" a'r "J-pickup". Mae'r math cyntaf yn ddau synhwyrydd bach sy'n gorchuddio dau linyn yr un. Mae'r ail synhwyrydd arall (y "J-Pickup") yn debyg i'r pigolan ar y Fender Jazz Gitar Bas. Mae gitâr bas sydd ag un synhwyrydd mawr yn defnyddio'r "J-Pickup" . Mae "J-Pickup" yn gorchuddio'r holl bedwar llinyn.