Alhambra

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ystafell yn y palas gyda golwg ar Gwrt y Llewod.

Palas o'r canol oesoedd oedd yn perthyn i frenhinoedd Islamaidd Teyrnas Granada yw'r Alhambra (Arabeg: الحمراء = Al-Ħamrā'; yn llythrennol "y coch"). Saif ar fryn ar ochr dde-ddwyreiniol dinas Granada yn Andalucía, Sbaen.

Daw'r enw o'r lliw coch ar y tir sydd o gwmpas yr Alhambra, sydd hefyd erbyn heddiw wedi lliwio'r muriau eu hunain yn goch, er eu bod wedi eu gwyngalchu yn wreiddiol. Yn ystod yr ymladd rhwng dilynwyr Islam a'r Cristionogion oedd yn ceisio adfeddiannu al-Andalus yn nechrau'r 13eg ganrif, enciliodd Ibn Nasr, sylfaenydd Brenhinllin y Nasrid, i Granada, a dechreuodd adeiladu'r Alhambra presennol.

Datblygwyd y palas dros y canrifoedd nesaf gan frenhinoedd megis Yusuf I, Muhammad V, Ismail I ac eraill. Yn 1492, gorfodwyd y brenin olaf, Muhammad XII, mwy adnabyddus yn y gorllewin fel "Boabdil", i ildio Granada a'r Alhambra i Fernando II o Aragon ac Isabella o Castilla. Yn ddiweddarach adeiladodd y brenin Carlos V (1516 - 1556) balas yn arddull y Dadeni ar y safle.

Rhestrwyd yr Alhambra, gyda'r Generalife a'r Albayzín yn Granada, fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.