Amy Evans

Oddi ar Wicipedia
Amy Evans
Amy Evans yn A Waltz Dream ym 1911
Ganwyd24 Hydref 1884 Edit this on Wikidata
Ynys-hir Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ionawr 1983 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Balshaw's Church of England High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr opera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

Soprano ac actores o Gymru oedd Amy Evans (24 Hydref 1884 - 5 Ionawr 1983). Roedd yn adnabyddus am ei pherfformiadau mewn oratorio, datganiadau ac opera. Gwnaeth rai recordiadau cerddorol hefyd gan ddechrau ym 1906. Ym 1910, chwaraeodd y rhan flaenllaw Selene yn opera olaf W S Gilbert, Fallen Fairies[1] a chanodd yn y Tŷ Opera Brenhinol am y tro gyntaf yr un flwyddyn[2] a sawl gwaith wedi hynny. Chwaraeodd y Dywysoges Helena yn A Waltz Dream yn Daly's Theatre ym 1911.

Wedi i Evans briodi'r bariton o'r Alban, Fraser Gange ym 1917, roedd y ddau yn perfformio gyda'i gilydd yn aml mewn cyngerdd ac ar daith, gan symud i'r Unol Daleithiau ym 1923. Ym 1975, yn 91 oed, rhoddodd Evans ei pherfformiad olaf. Gan fyw hyd 98 mlwydd oed, roedd hi'n un o'r aelodau olaf o gast sioe a chynhyrchwyd gan W S Gilbert.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Amy Evans ym mhlwyf Ystradyfodwg naill ai yn Ynyshir [3] neu yn Nhonypandy. [4] Er nad oedd o dras dosbarth uchel, daeth Evans o gartref mwy cysurus nag y mae adroddiadau am ei gefndir yn awgrymu. Mae'r disgrifiad arferol o'i thad, Thomas Vaughan Evans, fel glöwr, er nad yw'n hollol anghywir, yn tan ddatgan ei safle rhywfaint; roedd yn swyddog yng Nglofa Pen y Garn ac ychydig yn well ei fyd na'r rhan fwyaf o weithwyr y pwll. Ar ben hynny, roedd Amy yn gynnyrch aelwyd gerddorol lle'r oedd canu yn cael ei werthfawrogi, gan fod ei mam, Leah, a'i mam-gu yn weithgar ac yn cael eu cydnabod fel cantorion Capel.

Ar wahân i astudiaethau cyffredinol yn yr ysgol fwrdd lleol, cafodd Evans rai gwersi canu cynnar gydag Ivor Foster. Ym 1896, dechreuodd astudiaethau lleisiol gyda David Lloyd, organydd a chôr-feistr Eglwys Sant Andreas, Tonypandy a phianydd uchel ei barch yn neheudir Cymru. I gydnabod addewid cerddorol Evans, fe wnaeth cymwynaswyr lleol sefydlu cronfa i hyrwyddo ei haddysg gerddorol. [5] Ym 1899, yn 14 oed, enillodd Evans y wobr soprano yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd am berfformiad o "Hear ye, Israel" o Elias Mendelssohn. Daeth i'r brig fel y gorau o 77 o gystadleuwyr.[6] Yn cyflwyno'r wobr iddi oedd y tenor, Ben Davies, a'i disgrifiodd fel "canwr naturiol gwych" ac a ragwelodd ddyfodol gwych iddi, pe bai hi'n derbyn "hyfforddiant iawn". [7]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Evans yrfa mewn cyngerdd, ac ysgrifennodd The Times am un o'i datganiadau, "Roedd llais soprano clir, uchel Miss Evans yn addas iawn" i'r caneuon. [8] Dechreuodd ei gyrfa recordio prin ym 1906, pan wnaeth ychydig o silindrau ffonograff i Edison Bell a dechrau cyfres o ddisgiau wedi'u torri'n fertigol ar gyfer Pathé . Roedd yr olaf yn cynnwys y recordiad cyflawn cyntaf o un o operâu Gilbert a Sullivan The Yeomen of the Guard, lle canodd rolau Elsie a Kate. [9]

Ar 3 Ionawr 1910, disodlodd Evans Nancy McIntosh yn rôl arweiniol Selene yn opera olaf aflwyddiannus W S Gilbert, Fallen Fairies,[10] gyda cherddoriaeth gan Edward German, [11] a chafodd ei ddangos am y tro cyntaf ar 15 Rhagfyr 1909 yn Theatr y Savoy yn Llundain gan gwmni Charles Workman. Er i Evans dderbyn adolygiadau ffafriol, fe wnaeth diswyddiad McIntosh ysgogi anghydfod erchyll rhwng Gilbert, German a Workman. Gwaharddodd Gilbert Workman rhag byth eto ymwneud ag un o'i weithiau yn y Deyrnas Unedig. Ni wnaeth Gilbert na German ysgrifennu gwaith arall ar gyfer y llwyfan cerddorol.

Ar ôl i Fallen Fairies dod i ben ymddangosodd Evans mewn cyfres o gyngherddau, gan gynnwys ymddangosiad yng Ngŵyl Gerdd Caerdydd gyda bron y cyfan o gantorion enwocaf Cymru'r dydd.[12] Ar ddiwedd Ebrill 1910 bu yn chwarae Waldvogelyn y Tŷ Opera Brenhinol yn yr opera Siegfried, y drydydd darn allan o bedwar o Der Ring des Nibelungen gan Wagner. [13] [14]Hefyd ym 1910, cyhoeddodd Cwmni Ffonograff Cenedlaethol Thomas Edison y recordiadau masnachol diwethaf wedi'u dogfennu gan Evans, grŵp o silindrau pedair munud.

Ym 1911, chwaraeodd Evans y Dywysoges Helena gyferbyn â Lily Elsie mewn adfywiad o A Waltz Dream yn Daly's Theatre . [15] Wedi hynny, dychwelodd i'w gyrfa gyngerdd, er bu ganddi gysylltiadau byr â Covent Garden a Chwmni Opera Grand Philadelphia-Chicago yn y blynyddoedd yn arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf. [16] Er enghraifft, roedd hi'n Micaela yn Carmen yn Covent Garden ym 1912, [17] ac yn Chicago ymunodd â Rosa Raisa, oedd ar ddechrau ei gyrfa, fel un o'r morwynion blodau yn Parsifal yn ystod tymor 1913–1914. [18]

Ar 3 Gorffennaf 1917, priododd Evans â'r bariton Albanaidd Fraser Gange (1886-1962). O'r pwynt hwnnw ymlaen, tra bod Evans yn parhau i ganu ymrwymiadau unigol, fel ei chyfranogiad ym première Requiem Delius ar 23 Mawrth 1922, roedd hi'n perfformio'n aml gyda'i gŵr mewn cyngherddau. Aeth y cwpl ar daith 187 perfformiad o amgylch Awstralia rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 1920 a thaith o amgylch gwledydd Prydain ym 1921 a 1922. [16]

Blynyddoedd diweddarach[golygu | golygu cod]

Parhaodd Evans a Gange i berfformio gyda'i gilydd ar ôl symud i'r Unol Daleithiau ym 1923 a mwynhau llwyddiant mewn lleoliadau cyngerdd mawr, fel Neuadd y Dref yn Ninas Efrog Newydd. Yn wir, cyn pen pedwar mis ar ôl iddynt gyrraedd Efrog Newydd, canodd y cwpl ar 5 Mawrth 1924 ddatganiad cyhoeddus ar y cyd yno yn y Lotus Club. [16] Aethant ar daith arall i Awstralia a Seland Newydd yn para chwe mis ym 1928. Tua'r adeg honno, gwnaeth Evans ei recordiadau olaf, a'i unig un trydanol, ar gyfer Columbia Records, er na chafodd ei ryddhau. Ar 27 Mawrth 1932, canodd Evans yn Offeren Bach mewn B leiaf gyda Cherddorfa Symffoni Boston, dan arweiniad Serge Koussevitzky, ynghyd â Gange, Margarete Matzenauer a Richard Crooks. Dyma oedd ymddangosiad olaf Gange gyda'r gerddorfa, yr oedd wedi ffurfio cysylltiad rheolaidd â hi. Dilynodd Evans ei gyrfa unigol yn yr Unol Daleithiau hefyd. Er enghraifft, ar 9 Mawrth 1930, hi oedd y fenyw gyntaf i ganu yng Nghlwb Harvard yn Efrog Newydd.

Ym 1949, symudodd Evans a Gange o Efrog Newydd i Baltimore, Maryland, lle'r oedd Gange, a oedd erbyn hyn wedi datblygu gyrfa academaidd lwyddiannus, yn dysgu amser llawn yng Nghonservatoire Peabody. Ym 1975, rhoddodd Evans, a oedd bellach yn 91 oed, ei pherfformiad olaf, pan ganodd gerbron Clybiau Merched Cymry America, er ei bod hi, erbyn hynny, wedi hen ymddeol. [16]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Pan fu farw yn 98 oed yn Baltimore, roedd Evans yn un o'r aelodau cast olaf i oroesi o gynhyrchiad W S Gilbert ac o bosib y perfformiwr olaf i oroesi o rediad gwreiddiol o waith gan Gilbert. [16] [19]

Recordiadau[golygu | golygu cod]

Ychydig o recordiadau o Evans sy'n hysbys, gyda mwy na hanner ohonynt o ddeuawdau neu ensembles yn hytrach nag unawdau. Ar wahân i ailgyhoeddiad label bach o'r set Yeomen a ddisgrifir isod, nid oes yr un wedi ymddangos ar gryno ddisg. [20] Roedd y recordiadau Evans cyntaf ar silindrau gwêr a gyhoeddwyd gan Edison Bell fel rhan o'i gyfres Gymraeg ym 1906. Roedd y teitlau'n cynnwys y canlynol:

  • Y Deryn Pur
  • Richard Samuel Hughes:[21] Llam y Cariadau
  • Joseph Parry: Hywel a Blodwen (deuawd gyda John Roberts)
Evans a Lily Elsie yn A Waltz Dream

Yn yr un flwyddyn, gan barhau i 1907, recordiodd Evans chwe ochr record disg cychwyn o'r canol unigol ar gyfer Pathé. Yr unig unawd oedd "Angels Ever Bright and Fair" o Theodora gan Händel. Recordiad arall oedd y triawd o Faust Gounod gyda'r tenor Alfred Heather a'r bariton Bantock Pierpoint. Deuawdau oedd y gweddill gyda'r bariton Francis Ludlow:

  • Lionel Monckton: A Country Girl—"Boy and Girl" a'r The Cingalee—"You and I"
  • André Messager: Véronique—"The Donkey Duet" a "Swing Song"

Roedd ail flwyddyn y cysylltiad hwnnw â Pathé yn cynnwys ei chyfranogiad fel Elsie Maynard a Kate yn y recordiad cyntaf bron yn gyflawn o The Yeomen of the Guard gan Gilbert a Sullivan. Aelodau eraill y cast oedd Bantock Pierpoint, Ben Ivor, Francis Ludlow, ac Emily Foxcroft; fel Evans, cymerodd pob un ond Ivor rolau lluosog. Yn dirprwyo ar ran y gerddorfa oedd Band y Gwarchodlu Albanaidd, [22] adlewyrchu arfer cyffredin ymhlith cwmnïau recordio, gan fod technoleg y dydd yn dal offerynnau gwynt yn llawer gwell na llinynnau. [23] O'r chwe ochr yr ymddangosodd arni, dim ond un a ymddangosodd Evans mewn unawd, "The Prisoner Comes", o ddiweddglo Act I.

Dychwelodd Evans at y stiwdio, ac i silindrau, unwaith yn rhagor ym 1910, pan recordiodd pedwar can unigol ar gyfer Edison ar silindrau pedair munud: The Last Rose of Summer gan Thomas Moore, The Dawn gan Guy d'Hardelot, The Kerry Dance gan James Lyman Molloy, a I Wish I Were a Tiny Bird gan Hermann Löhr. Nid oes unrhyw sesiynau recordio pellach yn ymwneud ag Evans yn hysbys yn yr oes acwstig, [20]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Miss Amy Evans - Rhondda Leader Maesteg Garw and Ogmore Telegraph". The Rhondda Leader Limited. 1910-01-08. Cyrchwyd 2021-05-15.
  2. "Miss Amy Evans - Rhondda Leader Maesteg Garw and Ogmore Telegraph". The Rhondda Leader Limited. 1910-04-09. Cyrchwyd 2021-05-15.
  3. Amy Evans at the Memories of the D'Oyly Carte website, accessed 12 May 2008
  4. "A Promising Soprano of Fifteen", The Musical Times, 1 Medi 1899, adalwyd 15 Mai 2021
  5. "LLWYDDIANT MISS AMY EVANS - Tarian Y Gweithiwr". Mills, Lynch, & Davies. 1899-08-03. Cyrchwyd 2021-05-15.
  6. "EISTEDDFOD CENEDLAETHOL CAERDYDD - Y Negesydd". Cwmni Gwasg Idris. 1899-07-21. Cyrchwyd 2021-05-15.
  7. "THE FUTURE OF AMY EVANS - South Wales Echo". Jones & Son. 1899-07-20. Cyrchwyd 2021-05-15.
  8. "Concerts", The Times, 1 July 1907, p. 12
  9. "Gilbert and Sullivan and the Early Recording Industry". web.archive.org. 2008-05-13. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-13. Cyrchwyd 2021-05-15.
  10. "MISS AMY EVANS'S DEBUT IN OPERA - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1910-01-08. Cyrchwyd 2021-05-15.
  11. "Savoy Theatre - Miss Amy Evans now", The Times, 6 January 1910, p. 11
  12. "Cardiff Musical Festival - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1910-09-19. Cyrchwyd 2021-05-15.
  13. "Music. Royal Opera", The Times, 29 April 1910, p. 13
  14. "HYN AR LLALL - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1910-05-06. Cyrchwyd 2021-05-15.
  15. Information about postcard photo of Evans in A Waltz Dream (About Postcards), adalwyd 15 Mai 2015
  16. 16.0 16.1 16.2 16.3 16.4 Fagan, P. E. "Fraser Gange Career Chronology, Early Years", adalwyd 15 Mai 2015
  17. "Music. Royal Opera", The Times, 10 April 1912, p. 9
  18. "Successful Opera Season Marked by Many New Productions," The Piano Magazine, Vol. 11, No. 2, February 1914, adalwyd 15 Mai 2025
  19. Bu Ernestine Gauthier, aelod o'r côr ac eilydd yn Theatr y Savoy yn ystod tymor Gilbert a Sullivan 1906-07, a fyddai weithiau'n eilyddio i Jessie Rose mewn adfywiadau fel Iolanthe a'r Lady Angela, yn byw tan 1988, pan fu farw yn 108. Hi oedd yr aelod cast olaf i oroesi a berfformiodd o dan gyfarwyddyd personol Gilbert. Gwel Stone, David. Ernestine Gauthier yn Who Was Who in the D'Oyly Carte Opera Company.
  20. 20.0 20.1 Partial Evans discography, including details about catalogue and matrix numbers (P. E. Fagan), accessed 15 Mai 2021
  21. "HUGHES, RICHARD SAMUEL (1855 - 1893), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-05-16.
  22. "The 1907 Pathé Yeomen". web.archive.org. 2008-04-09. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-09. Cyrchwyd 2021-05-15.
  23. John Ardoin, "Horn of Plenty", The Opera Quarterly Volume 4 no. 1 (pp. 43–53), 1986

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]