Alan Brown

Oddi ar Wicipedia
Alan Brown
Alan Brown


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – Mai 2022
Rhagflaenydd Cathy Jamieson
Y Blaid Lafur

Geni (1970-08-12) 12 Awst 1970 (53 oed)
Kilmarnock, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Kilmarnock a Loudoun
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Priod Ydy
Plant Dau fab
Alma mater Prifysgol Glasgow
Galwedigaeth Gwleidydd
Gweithiwr sifil
Cynghorydd
Gwefan http://www.snp.org/

Gwleidydd o'r Alban yw Alan Brown (ganwyd 12 Awst 1970) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Kilmarnock a Loudoun; mae'r etholaeth yn Nwyrain Swydd Ayr, Gogledd Swydd Ayr a De Swydd Ayr, yr Alban. Mae Alan Brown yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

Fe'i ganed yn Kilmarnock, Dwyrain Swydd Ayr yn 1970. Graddiodd gydag Anrhydedd ym Mhrifysgol Glasgow - mewn peirianneg sifil. Yna gweithiodd yn y sector preifat a chyhoeddus.[1]

Yn ei oriau hamdden mae'n cefnogi Clwb pêl-droed Kilmarnock.

Fe'i etholwyd am y tro cyntaf fel cyngorydd sir etholaeth Dwyrain Swydd Ayr (ward Dyffryn Irvine) yn 2007, a hynny fel aelod o'r SNP. Fe'i ail-etholwyd yn 2012.

Etholiad 2015[golygu | golygu cod]

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Alan Brown 30000 o bleidleisiau, sef 55.7% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 29.7 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 13638 pleidlais.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.thenational.scot; adalwyd 11 Gorffennaf 2015
  2. Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
  3. Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Cathy Jamieson
Aelod Seneddol dros Kilmarnock a Loudoun
2015 – presennol
Olynydd:
presennol