Afon Neisse

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Neisse, afon Oder a'r ffîn rhwng Gwlad Pwyl a'r Almaen

Afon yng nghanolbarth Ewrop yw afon Neisse (Almaeneg yn llawn: Lausitzer Neiße, Pwyleg: Nysa (Łuźycka), Tsieceg: (Lužická) Nisa). Mae'n tarddu ym mynyddoedd Iser yn y Sudetenland yng Ngweriniaeth Tsiec, ac yn llifo tua'r gogledd. Yn nes ymlaen yn ei chwrs mae'n ffurfio rhan o Linell Oder-Neisse, sy'n dynodi'r ffîn rhwng Gwlad Pwyl a'r Almaen ers 1945. Wedi llifo am 252 km, mae'n llifo i mewn i afon Oder gerllaw Ratzdorf.

Fe'i gelwir y Lausitzer Neiße yn Almaeneg i'w gwahaniaethu oddi wrth y Glatzer Neiße, afon arall sy'n llifo i mewn i afon Oder, Nysa Kłodzka mewn Pwyleg. Y prif ddinasoedd ar yr afon yw Liberec (Gweriniaeth Tsiec) a Görlitz (yr Almaen).

Y Neisse ger Görlitz