Afon Bidasoa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Bidasoa ger Irún.

Afon yng Ngwlad y Basg sy'n ffurfio rhan o'r ffîn rhwng Sbaen a Ffrainc yw Afon Bidasoa (Ffrangeg: Bidassoa).

Mae'r afon yn tarddu yn y Pyreneau yn Navarra. Fe'i gelwir yn Afon Baztan hyd nes iddi gyrraedd Oronoz-Mugairi, lle mae'n newid ei henw i Afon Bidasoa. Ffurfia'r ffîn rhwng Sbaen a Ffrainc am 10 km cyn cyrraedd y môr ym Mae Biskaia; mae ei haber rhwng Hendaye a Hondarribia. Ceir pysgota am eog a brithyll ynddi.