Hendaia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hendaia o Hondarribia

Tref a chymuned yn département Pyrénées-Atlantiques yn ne-orllewin Ffrainc ac yn nhalaith draddodiadol Lapurdi, un o dair talaith y rhan Ffrengig o Wlad y Basg yw Hendaia (Basgeg: Hendaia, Ffrangeg: Hendaye). Roedd y boblogaeth yn 12,596 yn 1999.

Saif ar lan Afon Bidasoa, sy'n ffurfio'r ffîn rhwng Sbaen a Ffrainc yma. Ar lan arall yr afon mae Hondarribia yng Nghymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg.