Aetolia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ardal Aetolia.

Ardal o Wlad Groeg ar lan ogleddol Gwlff Corinth yw Aetolia. Erbyn heddiw mae'n rhan o dalaith Aetolia-Acarnania. Yn draddosiadol, fe'i henwyd ar ôl Aetolus, mab Endymion.

Yn y gorllewin, mae Afon Achelous yn gwahanu Aetolia oddi wrth Acarnania, tra yn y goledd mae'n ffinio ar Epirus a Thessalia ac yn y dwyrain ar Locris. Yn y cyfngod clasurol, roedd yn cael ei wahani i Hen Aetolia yn y gorllewin ac Aetolia Newydd yn y dwyrain. Roedd yn ardal wyllt a mynyddig, a daeth yn enwog ym mytholeg Groeg fel lleoliad hela Baedd Calydonia.

Y boblogaeth wreiddiol oedd y Curetes a'r Leleges, ond dywedir i Roegaid o Elis, dan arweiniad Aetolus, ymsefydlu yno. Bu gan yr Aetoliaid rhan yn Rhyfel Caerdroea dan eu brenin, Thoas.

Sefydlasant Gynghrair Aetolia yn gynnar, a daeth i fod yn rym milwrol yng Ngroeg, gan wrthwynebu Macedon a Chynghrair Achaea. Yn wahanol i Gynghrair Achaea, gwneid gwahaniaeth rhwng aelodau llawn a chyngheiriad oedd dan reolaeth yr aelodau llawn. Byddai'r cynghrair yn cyfarfod bob dwy flynedd, gyda gemau yn cael eu cynnal.

Ochrodd yr Aetoliaid gyda Antiochus III, brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, yn erbyn Gweriniaeth Rhufain, a phan orchfygwyd Antiochus gan y Rhufeiniaid yn 189 CC, daethant dan reolaeth Rhufain. Yn 146 CC, daeth Aetolia yn ran o dalaith Rufeinig Achaea.

Pobl enwog o Aetolia[golygu]

Bu'r bardd Nicandros yn byw yno am gyfnod hir hefyd.