Nicandros

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am y bardd Cymraeg Nicander, gweler Morris Williams. Am enghreifftiau eraill o'r enw Nicander gweler Nicander (gwahaniaethu).

Bardd a gramadegydd yn yr iaith Roeg oedd Nicandros (hefyd Nicander, Groeg: Νίκανδρος) (fl. ganol yr ail ganrif C.C.), yn enedigiol o ddinas Colophon yn Asia Leiaf.

Offeiriad etifeddol yng ngwasanaeth y duw Apollo oedd Nicander. Roedd hefyd yn feddyg galluog. Treuliai gyfnodau hir yn ardal Aetolia ac yn ninas Pergamom.

Cyfansoddai nifer o lyfrau, gan gynnwys traethawd hir ar amaeth (erys darnau ohoni ar glawr) a llyfr ar ymrithiadau (metamorphoses) a ddefnyddiwyd fel ffynhonnell gan y bardd Lladin Ofydd ac eraill.

Mae dwy o'i gerddi ar glawr ond nid oes iddyn nhw lawer o werth llenyddol, sef y Theriaca, ar feddyginiaethau yn erbyn brath nadroedd, a'r Alexipharmaca, ar wenwynau mewn bwyd a diod a sut i'w cwffio.