4 Vesta

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
4 Vesta o'r cerbyd ofod Dawn ar 9 Gorffennaf, 2011.

Mae Vesta yn asteroid yn cylchu'r Haul rhwng y planedau Mawrth ac Iau. Vesta yw'r pedwarydd asteroid i gael ei ddarganfod, ar ôl 1 Ceres (erbyn hyn mae Ceres wedi ei ail-gategoreiddio fel planed gorrach), 2 Pallas, a 3 Juno. Darganfyddwyd Vesta gan y seryddwr Heinrich Wilhelm Olbers ar 29 Mawrth 1807. Wnaeth y chwiliedydd gofod Dawn, a lansiwyd gan NASA yn 2007, gyrraedd yr asteroid yn Gorffennaf 2011. Bydd yn treulio'r flwyddyn ganlynol yn gwneud mesuriadau gwyddonol cyn mynd ymlaen i ymweld â Ceres yn 2015.