2 Pallas
Oddi ar Wicipedia
2 Pallas yw'r ail asteroid i gael ei ddarganfod a'r trydydd wrthrych trymaf yn y gwregys asteroidau: amcangyfrifir ei fod yn cynnwys 7% o fas y gwregys cyfan. Cafodd ei ddarganfod ar 28 Mawrth, 1802, gan y seryddwr Almeinig Heinrich Wilhelm Matthäus Olbers ac fe'i enwir ar ôl y dduwies Roegaidd Pallas Athena, sef ffurf ar y dduwies Athena.