3 Juno
Oddi ar Wicipedia
3 Juno yw'r trydydd asteroid i gael ei ddarganfod ac un o'r asteroidau mwyaf yn y prif wregys o asteroidau sy'n cylchdroi'r Haul. Dyma'r ail drymaf o'r asteroidau math S (S-type) a nodweddir gan eu natur creigiog. Cafodd ei ddarganfod ar 1 Medi, 1804 gan y seryddwr Almaenig Karl L. Harding ac fe'i enwir ar ôl y dduwies Rufeinig Juno.