2008 mewn ffilm

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cafodd sawl ffilm newydd eu rhyddhau led-led y byd yn 2008, gan gynnwys nifer o ffilmiau poblogaidd megis Rambo, The Chronicles of Narnia: Prince Caspian, Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull, Hellboy II: The Golden Army, The Dark Knight, The X-Files: I Want to Believe, The Mummy: Tomb of the Dragon Emperor, Star Wars: The Clone Wars, High School Musical 3: Senior Year, Saw V, Quantum of Solace, Madagascar: Escape 2 Africa a The Sisterhood of the Traveling Pants 2.

Y ffilmiau a wnaeth fwyaf o arian[golygu]

Sylwer yn dilyn traddodiad y diwydiant ffilm Saesneg, dyma restr o'r ffilmiau a wnaeth fwyaf o arian ac a gafodd eu rhyddhau gyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 2008. Y deg ffilm uchaf yn 2008, yn ôl cyfanswm crynswth mewn $UDA, yn ogystal â Chanada, y DU ac Awstralia oedd:

Safle yn 2008 Teitl Stiwdio Cyfanswm byd-eang Cyfanswm crynswth UDA/Canada Cyfanswm crynswth y DU Cyfanswm crynswth Awstralia
1 The Dark Knight Warner Bros. $1,001,921,825 $533,345,358 $89,066,002 $39,880,001
2 Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull Paramount $786,636,033 $317,101,119 $79,283,312 $27,981,873
3 Kung Fu Panda DreamWorks $631,908,951 $215,434,591 $39,405,501 $24,764,811
4 Hancock Columbia $624,386,746 $227,946,274 $49,170,891 $19,636,856
5 Mamma Mia! Universal $602,609,487 $144,130,063 $132,342,643 $29,287,466
6 Madagascar: Escape 2 Africa DreamWorks $594,728,447 $180,010,950 $34,437,038 $15,093,421
7 Iron Man Paramount $582,030,528 $318,412,101 $33,822,889 $18,880,106
8 Quantum of Solace MGM / Columbia $575,952,505 $168,368,427 $80,805,643 $20,645,336
9 WALL-E Disney / Pixar $534,767,889 $223,808,164 $41,215,600 $14,165,390
10 The Chronicles of Narnia: Prince Caspian Disney $419,651,413 $141,621,490 $21,581,030 $13,181,570


Daw'r ystadegau hyn o Box Office Mojo, gan gynnwys 2008 Canlyniadau Swyddfa Docynnau Blynyddol.

Yn gyfangwbl, rhyddhawyd pumdeg wyth ffilm a wnaeth fwy na $100 miliwn yn 2008. Roedd deuddeg ffilm wedi gwneud dros $400 miliwn, tra bod The Dark Knight wedi gwneud dros $1 biliwn, gan wneud y ffilm y pedwerydd ffilm mwyaf llwyddiannus yn fasnachol erioed. Ar y 4ydd o Awst, cyrhaeddodd The Dark Knight cyfanswm crynswth o $400 mewn cyfnod o 18 niwrnod yn unig. Daliwyd y record blaenorol gan Shrek 2, a gyrhaeddodd $400 miliwn mewn 43 niwrnod.[1] Ar yr 31ain o Awst, 45 niwrnod ar ôl i'r ffilm gael ei rhyddhau, cyrhaeddodd The Dark Knight $500 miliwn, gan ei gwneud yr ail ffilm erioed ar ôl Titanic i groesi'r trothwy hanner biliwn o ddoleri. Mamma Mia! oedd y ffilm a wnaeth fwyaf o arian erioed yn y Deyrnas Unedig.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [ url=http://www.worstpreviews.com/headline.php?id=9658&count=0 The Dark Knight Breaks $400 Million in Record Time] 2008-08-05. Adalwyd ar 2008-08-06