Zhang Tianyi
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Zhang Tianyi | |
---|---|
Ganwyd | 26 Medi 1906 ![]() Nanjing ![]() |
Bu farw | 28 Ebrill 1985 ![]() Beijing ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, awdur plant, newyddiadurwr, gwleidydd ![]() |
Swydd | National People's Congress deputy ![]() |
Llenor Tsieineaidd sy'n adnabyddus am ei straeon byrion realaidd oedd Zhang Tianyi (ganwyd Zhang Yuanding; 26 Medi 1906 – 28 Ebrill 1985).[1]
Ganwyd yn Nanjing, Jiangsu, a mynychodd ysgol uwchradd yn Hangzhou. Cychwynnodd ei yrfa yn ysgrifennu straeon ditectif. Symudodd i Beijing ym 1925 a dechreuodd ysgrifennu straeon dychanol. Cyhoeddodd sawl casgliad o straeon byrion, gan gynnwys Xiao Bide (1931), Tuanyuan (1935), a Suxie sanpian (1943), a nofelau dychanol gan gynnwys Guitu riji (1931) a Yanglingbang (1936).
Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith am gyfnod yn y 1940au gan iddo ddioddef y diciâu. Wedi iddo wella, cafodd gwaith swyddogol gan y llywodraeth gomiwnyddol yn ysgrifennu straeon a dramâu i blant.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Zhang Tianyi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Mai 2018.