Zaranj
Gwedd
| Math | dinas, tref ar y ffin |
|---|---|
| Cylchfa amser | UTC+04:30 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 476 metr |
| Cyfesurynnau | 30.96°N 61.86°E |
![]() | |
Dinas yn ne-orllewin Affganistan a phrifddinas daleithiol Nimruz yw Zaranj (Perseg, Pashto a Balochi: زرنج) a saif ar y ffin ag Iran. Mae priffyrdd yn cysylltu Zaranj â Lashkargah i'r dwyrain, Farah i'r gogledd, a Zabol yn Iran i'r gorllewin. Lleolir Maes Awyr Zaranj ar gyrion y ddinas.
Yn ystod ymgyrch ymosodol y Taleban i orchfygu Affganistan yn 2021, Zaranj oedd y brifddinas daleithiol gyntaf i gwympo iddynt.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Afghanistan war: Taliban capture regional capital Zaranj", BBC (6 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Awst 2021.
