Zabrinski

Oddi ar Wicipedia
Zabrinski
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Label recordioAnkst Edit this on Wikidata
Dod i'r brig2007 Edit this on Wikidata
Genreseicadelia newydd Edit this on Wikidata

Band cerddoriaeth trydanol Gymreig o Gaerfyrddin oedd Zabrinski. Roedd y band, a ymddangosodd yn gyntaf yn 2000, yn cyfuno seicadelia a cherddoriaeth electronig.[1] Enillodd Executive Decision y wobr am sengl y flwyddyn yng nghylchgrawn enwog Record Collector yn 2003.

Cafodd y band ei enwi oherwydd camsillafiad ffilm o 1970, sef Zabriskie Point.

Eu halbwm cyntaf oedd Screen Memories, a hawliodd sylw'r beirniaid yn syth. Mae'r record yn gyfuniad o bop seicadelig law yn llaw ag elfennau o'r llawr ddawns a'r byd electro-arbrofol.

Roedd Zabrinksi yn rhan o genhedlaeth newydd a ysbrydolwyd gan grwpiau fel Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci a Topper. Ymhlith eu halbyms mwya poblogaidd y mae: Yeti (2001), Koala Ko-ordination (2002) a Ill Gotten Game (2005) ac fe'u disgrifiwyd gan y BBC fel albymau 'llawn dyfeisgarwch, melodi a chynhyrchu beiddgar'. Dros y blynyddoedd, cymharwyd y grŵp i grwpiau ac unigolion fel Flaming Lips, Aphex Twin, Primal Scream a'r Beach Boys.[angen ffynhonnell]

Er iddynt deithio drwy wledydd Prydain gyda'r Super Furry Animals a recordio sesiynau ar gyfer Huw Stephens a John Peel ar Radio 1, daeth y grŵp i ben yn 2007.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Yr aelodau a sefydlodd y grwp yn wreiddiol oedd Mathew Durbridge, llais a guitar; Gareth Burger Richardson, gitar ac Iwan Morgan: samplyrs byw, recordio a chynhyrchu. Cychwynwyd y grwp tra roeddent yn yr ysgol. Gadawodd Iwan yn ddiweddarach ac ymunodd Kris Jenkins ar yr allweddelau ac offerynnau taro. Cyn hir ymunodd Rhun Lenny, Gitar Fâs; Owain Jones, drymiau a Pwyll ap Stifyn, recordio a chynhyrchu.

Disgograffi[golygu | golygu cod]

Albymau[golygu | golygu cod]

Senglau/EP[golygu | golygu cod]

  • Freedom Of The Hiway/Rattlesnake On Ice, Mawrth 2001, (Boobytrap)
  • Executive Decision, 16 Mehefin 2003

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.bbc.co.uk; adalwyd 11 Hydref 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]