Ysgol Llanllechid

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ysgol gynradd yn Rachub, Dyffryn Ogwen, yw Ysgol Llanllechid sydd yn nhalgylch Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda.

Gwenan Davies Jones yw ei phrifathrawes bresennol ac mae'r ysgol yn un cyd-addysgiadol ar gyfer disgyblion 3-11.

Siarter Iaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n ysgol ddwyieithog Cymraeg a Saesneg, er mai Cymraeg yw'r prif iaith dysgu.

Nôd syml y Siarter Iaith yw arwain at gynnydd yn nefnydd cymdeithasol plant o’r

Gymraeg gan eu hysbrydoli i wneud defnydd llawn o’r Gymraeg yn eu bywydau bob

dydd. Mae’r Siarter Iaith yn gofyn am gyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol –

y cyngor ysgol, y disgyblion, y gweithlu, y rhieni, y llywodraethwyr a’r gymuned

ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.[1]


Clybiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr ysgol, cynhelir gwahanol glybiau gan gynwys:

  • Clwb Ffrangeg
  • Clwb Newyddiadura
  • Clwb Gitâr
  • Clwb Chwaraeon y Ddraig
  • Clwb Cyfrifiaduron
  • Clwb Pêl droed[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Llawlyfr Gwybodaeth Ysgol Llanllechid. 2017. p. 28. 
  2. Llawlyfr Gwybodaeth Ysgol Llanllechid. 2017. p. 9. 

Doleni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato