Ysgol Gymunedol Llanllwchaearn

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gymunedol Llanllwchaearn
Enghraifft o'r canlynolysgol gynradd, ysgol Edit this on Wikidata
RhanbarthCeredigion, Cymru Edit this on Wikidata

Ysgol gynradd gymunedol ddwyieithog yng nghymuned Llanllwchaearn ger Cross Inn, Ceredigion oedd Ysgol Gymunedol Llanllwchaearn.

Roedd 33 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol yn 2005. Daeth 88% ohonynt o gartrefi lle roedd y Saesneg yn brif iaith, ond roedd 78% ohonynt yn siarad Cymraeg yn rhugl. Cymraeg oedd prif gyfrwng y dysgu a’r addysgu yng nghyfnod allweddol 1 a’r Gymraeg a’r Saesneg yng nghyfnod allweddol 2.[1]

Caewyd yr ysgol yn 2010, ynghyd ag Ysgol Gymunedol Gwenlli ac Ysgol Gymunedol y Castell, Caerwedros, gydag ysgol newydd Ysgol Bro Siôn Cwilt yn Synod Inn yn cymryd eu lle.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.