Ysgol Gyfun Pantycelyn
Gwedd
Ysgol Gyfun Pantycelyn | |
---|---|
Sefydlwyd | 1896 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Julie Griffiths |
Lleoliad | Heol Cilycwm, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA20 0DY |
Disgyblion | 416 (2005)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Gwefan | http://www.pantycelyn.org |
Ysgol uwchradd yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin yw Ysgol Gyfun Pantycelyn.[1] Adeiladwyd prif adeilad yr ysgol ym 1896, ond mae wedi cael ei ymestyn yn helaeth ers hynny.[2]
Roedd 416 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2005, gan gynnwys 61 yn y chweched ddosbarth. Daw tua 8.5% o'r disgyblion o du allan i dalgylch yr ysgol. Mae'n ysgol gymunedol ddwy-ieithog naturiol, gan fod 35% o'r disgyblion yn dod o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith, a siarada 46% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan yr ysgol Archifwyd 2009-04-16 yn y Peiriant Wayback