Ysgol Dinmael

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ysgol Dinamel)
Ysgol Dinmael
Enghraifft o'r canlynolysgol Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata

Ysgol gynradd yn Ninmael rhwng Cerrigydrudion a Chorwen, Sir Conwy oedd Ysgol Dinmael. Sefydlwyd yr ysgol ym 1875,[1] roedd yn gwasnaethu plant rhwng 3 ac 11 oed.

Roedd 112 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol ym 1901,[1] ond erbyn 2004 roedd hyn wedi disgyn i 26. Yn 2004 daeth 25% o'r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith. Siaradai 75% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf.[2]

Caewyd yr ysgol yn 2009, wedi 134 mlynedd.[1][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Ex-pupils’ tribute to Ysgol Dinmael. Daily Post (8 Medi 2009). Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.
  2.  Adroddiad arolygiad Ysgol Dinmael, 12–14 Ionawr 2004. Estyn (15 Mawrth 2004).
  3.  Ysgol Dinmael: THE SCHOOL STANDARDS AND FRAMEWORK ACT 1998 THE EDUCATION (SCHOOL ORGANISATION PROPOSALS) (WALES) REGULATIONS 1999 (S. 1. 1999/1671).. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (10 medi 2009). Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.
Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.