Ysgol Cil-y-Coed

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Cil-y-Coed
Arwyddair Calon i lwyddo
Sefydlwyd 1959
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mrs. S Gwyer-Roberts
Lleoliad Mill Lane
Cil-y-Coed
Sir Fynwy, , NP26 5XA
AALl Cyngor Sir Fynwy
Disgyblion 1,238
Rhyw Cyd-addysgol
Gwefan www.caldicotschool.com/


Ysgol gydaddysgol, gymunedol i ddisgyblion 11-18 oed yw Ysgol Cil-y-Coed (Saesneg: Caldicot School) a leolir ar gyrion tref Cil-y-Coed, Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru ar lan Môr Hafren. Mae'n sefyll mewn 50 erw o dir a cheir pedwar prif bloc lle addysgir y disgyblion yn ogystal â bloc gwyddoniaeth a dwy gampfa. Cyngor Sir Fynwy yw'r awdurdod addysg sy'n gofalu am yr ysgol.

Mae ei gwefan yn uniaith Saesneg. Dywed ei Pholisi Dwyieithrwydd fod yr ysgol wedi'i ymrwymo i hyrwyddo gweledigaeth ac amcanion Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu dwyieithrwydd. Dywedodd hefyd ei bod yn cytuno fod y Gymraeg yn perthyn i holl drigolion Cymru, boed yn siarad yr iaith neu beidio.[1] Mae pob plentyn yn astudio'r Gymraeg hyd at TGAU.

Yn Nhachwedd 2013, dywedir fod gan 11% o'r disgyblion yr hawl i ginio am ddim, o'i gymharu ag 17.7% yn genedlaethol. Roedd perfformiad yr ysgol, yn addysgol, yn 'Dda'.

Penaethiaid[golygu | golygu cod]

  • Mr W.A Silk 1958-1975
  • Mr C.A. Vanloo 1975-1980
  • Mr J. Norwood 1981-2002[2]
  • Mrs S. Gwyer-Roberts 2002–[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. caldicotschool.com; adalwyd 2 Chwefror 2017; We agree with the statement that "the Welsh language belongs to all the people of Wales, be they Welsh speakers or non-Welsh speakers".
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-12. Cyrchwyd 2017-02-28.
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-22. Cyrchwyd 2017-02-28.