Ysbyty Aneurin Bevan

Oddi ar Wicipedia
Ysbyty Aneurin Bevan
Mathysbyty Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAneurin Bevan Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Hydref 2010 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGlynebwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.779°N 3.204°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganBwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Edit this on Wikidata
Map

Ysbyty Aneurin Bevan yw'r ysbyty newydd a godwyd yn lle Ysbyty Glyn Ebwy, a gaeodd ei ddrysau ar ddiwedd 2005. Costiodd yr ysbyty newydd £34 miliwm i'w hadeiladu ac fe'i lleolir ar safle hen waith dur Corus yng Nglyn Ebwy. Rheolir yr ysbyty gan Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan.

Mae'r Ysbyty Gyffredinol Leol hon yn darparu 107 gwely ar arwynebedd o 10,000 metr sgwâr: llety ar gyfer clinigau cleifion allanol, diagnostig lleol, uned mân anafiadau, gwasanaethau therapi, uned iechyd meddwl i oedolion a chyfleusterau cleifion mewnol ar gyfer adsefydlu, gofal lliniarol a gwasanaeth cefnogi'r henoed.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato