Yr iaith Aeleg yn Nova Scotia

Oddi ar Wicipedia

Cafodd Gaeleg yr Alban ei defnyddio yn iaith yr aelwyd, y gymuned, a'r gweithle am fwy na dwy ganrif yn nhalaith Nova Scotia (Lladin am "Yr Alban Newydd") yng Nghanada, a fe'i cedwir yn fyw yn yr 21g gan nifer fach o siaradwyr.

Siaredir yr iaith Aeleg yn Nova Scotia ers i'r Gaeliaid ddechrau ymfudo i'r ardal yng nghanol y 18g. Am gyfnod bu'r iaith yn fyw mewn mannau eraill yng Nghanada, ac yn iaith gymunedol am sawl cenhedlaeth yn Ontario, Quebec, New Brunswick, ac Ynys Prince Edward. Yn sgil alltudiaeth yr Acadiaid i Louisiana a Gogledd a De Carolina, ymfudodd niferoedd mawr o Albanwyr, Saeson, Gwyddelod, ac Almaenwyr i ddwyrain Canada, gan drawsnewid demograffeg ieithyddol y wlad. Yn 1867, yr Aeleg oedd yr iaith a chanddi'r nifer trydydd mwyaf o siaradwyr (200,000) yn yr holl wlad, ar ôl Saesneg a Ffrangeg.

Wrth i'r iaith Saesneg dra-arglwyddiaethu ym mheuoedd llywodraethol Canada, a'r iaith Ffrangeg ddod yn rhan bwysig o hunaniaeth unigryw Quebec, gostyngodd y defnydd o'r Aeleg a nifer ei siaradwyr. Yn niwedd y 19g, traean o boblogaeth Nova Scotia oedd yn medru'r iaith, rhyw 80,000 i 100,000 o bobl. Gostyngodd y nifer i 25,000 yn 1931, 7000 yn 1951, 542 yn 1991, a 415 yn 2001. Goroesodd yr Aeleg yn brif iaith y gweithwyr yn y diwydiannau pysgota a thorri coed yn Nova Scotia hyd at y 1950au. Trigasant y mwyafrif o siaradwyr diweddar ar Ynys Cape Breton.

Yn yr 21g mae ymdrechion i achub yr iaith yn Nova Scotia wedi tyfu. Cyhoeddwyd adroddiad ar statws yr iaith yn 2002, a datganwyd cynllun datblygu 20-mlynedd yn 2004. Bwriadwyd sefydlu Uned yr Iaith Aeleg a swyddog neu weinidog dros yr iaith, ac ehangu'r ddarpariaeth Aeleg mewn ysgolion y dalaith. Addysgir yr iaith yn bwnc mewn sawl prifysgol yn Nova Scotia, ac yn brif iaith y Coleg Gaeleg yn St Anne's, Ynys Cape Breton. Cynhelir Feisean gan gymunedau Nova Scotia i ddathlu diwylliant Gaeleg ac Albanaidd y dalaith.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]