Ynys Yos Sudarso
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Yos Sudarso |
| Poblogaeth | 11,000 |
| Cylchfa amser | UTC+09:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Papua |
| Lleoliad | Môr Arafura |
| Sir | Merauke, Nabire |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 11,742 km², 10,652.494 km² |
| Uwch y môr | 4 metr |
| Gerllaw | Môr Arafura |
| Cyfesurynnau | 7.895831°S 138.364167°E |
| Hyd | 180 cilometr |
![]() | |
Ynys yn perthyn i Indonesia yw Ynys Yos Sudarso (Indoneseg: Pulau Yos Sudarso). Saif ger arfordir de-orllewinol ynys Gini Newydd, ac mae'n rhan o dalaith Papua. Yr hen enw arni oedd Ynys Frederik Hendrik; fe'i hail-enwyd ar ôl swyddog yn llynges Indonesia.
Mae'r ynys tua 180 km o hyd a 100 km o led, gydag arwynebedd o 11,600 km². Gorchuddir llawer o'r ynys gan goedwig drofannol, a cheir rhai o goedwigoedd Mangrof mwyaf y byd o gwmpas ei glannau.

