Ynys Prince Patrick
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Tywysog Arthur, Dug Connaught a Strathearn |
| Poblogaeth | 0 |
| Cylchfa amser | UTC−07:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
| Sir | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 15,848 km² |
| Gerllaw | Cefnfor yr Arctig |
| Cyfesurynnau | 76.75067°N 119.50342°W |
| Hyd | 240 cilometr |
![]() | |

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Prince Patrick (Saesneg: Prince Patrick Island). Mae'n un o Ynysoedd Queen Elizabeth, gydag arwynebedd o 15,848 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin.
Amgylchynir yr ynys gan rew am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ac mae'n un o ardaloedd mwyaf anhygyrch Canada. Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd ymgyrch dan arweiniad Francis Leopold McClintock yn 1853. Enwyd hi, yn ddiweddarach, ar ôl y Tywysog Arthur William Patrick, dug Connaught, fu'n rhaglaw Canada (1911-16).

