Ynys Kotelny
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Poblogaeth | 0 |
| Cylchfa amser | UTC+11:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Anzhu Islands |
| Sir | Bulunsky District |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 23,200 km² |
| Uwch y môr | 361 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Arctig, Môr Laptev, East Siberian Sea |
| Cyfesurynnau | 75.4389°N 138.8267°E |
![]() | |
Ynys yn perthyn i Rwsia ger arfordir gogleddol Siberia yw Ynys Kotelny (Rwseg: остров Котельный). Gerllaw mae Ynys Faddeyevsky (о. Фаддеевский), a ystrir weithiau fel rhan o Ynys Kotelny. Rhyngddynt mae Tir Bunge (Земля Бунге), yn cysylltu'r ddwy ynys. Ffurfianr ran o ynysoedd Anzhu (острова Анжу).
Mae gan Ynys Kotelny ei hun arwynebedd o 11,665 km², tra mae arwynebedd Ynys Faddejewski yn 5,300 km². Rhyngddynt, mae tywod wedi ymgasglu i uno'r ddwy ynys, trwy ffurfio Tir Bunge, gydag arwynebedd o 6,200 km². Gan nad yw Tir Bunge ond wyth medr o uchder yn ei fan uchaf, fe'i gorchuddir yn gyson gan y llanw, gan wahanu'r ddwy ynys.
