Ynys Elba
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Portoferraio |
| Poblogaeth | 32,000 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Tuscan Archipelago |
| Sir | Talaith Livorno |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 223 km² |
| Uwch y môr | 1,019 metr |
| Gerllaw | Môr Liguria |
| Cyfesurynnau | 42.78°N 10.275°E |
| Hyd | 29 cilometr |
![]() | |

Ynys oddi ar arfordir gorllewinol yr Eidal yw Ynys Elba (Eidaleg: Isola d'Elba).
Poblogaeth wreiddiol yr ynys oedd y Ligwriaid, a roddodd ei hen enw, Ilva, i'r ynys. Yn ddiweddarach cipiwyd yr ynys gan yr Etrwsciaid, yna gan y Rhufeiniaid.
Preswylydd enwocaf yr ynys oedd Napoleon, a alltudiwyd yno dan delerau Cytundeb Fontainebleau yn 1814. Cyrhaeddodd Portoferraio ar 3 Mai, 1814. Bu yno am 300 diwrnod, gan wneud llawer i wella bywyd trigolion yr ynys. Dihangodd o'r ynys a dychwelyd i Ffrainc ar 26 Chwefror 1815.
Yn 1860 daeth yr ynys yn rhan o deyrnas unedig yr Eidal. Erbyn hyn mae'r ynys yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn enwog am ei gwin.
