Ynys Bolshevik

Oddi ar Wicipedia
Ynys Bolshevik
Mathynys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBolsiefic Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSevernaya Zemlya Edit this on Wikidata
LleoliadCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
SirTaymyrsky Dolgano-Nenetsky District Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd11,206 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr935 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Kara, Môr Laptev Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau78.6092°N 102.9281°E Edit this on Wikidata
Hyd149 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Ynys Bolshevik

Ynys yn perthyn i Rwsia oddi ar arfordir gogleddol Siberia yw Ynys Bolshevik (Rwseg: о́стров Большеви́к). Hi yw'r fwyaf deheuol o ynysoedd mawr ynysfor Severnaya Zemlya, rhwng Môr Kara a Môr Laptev yng Nghefnfor yr Arctig. Mae tua 180 km o hyd a 111 km o led, gydag arwynebedd o 11,312 km², yr ail-fwyaf o ynysoedd Severnaya Zemlya. Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhanbarth Crai Krasnoyarsk.

Mae'r ynys yn fynyddig, gyda'r copa uchaf yn cyrraedd 935 medr. Ceir gorsaf wyddonol Prima ar yr ynys. Gorchuddir tua 30% o'r ynys gan rew, a cheir tri rhewlif yma. Yn ddiweddar, bu ymgyrch i geisio newid yr enw i Svyataya Olga ("Santes Olga").

Ynysoedd Severnaya Zemlya
Eginyn erthygl sydd uchod am Crai Krasnoyarsk. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.