Ynys Banks
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Joseph Banks |
| Prifddinas | Sachs Harbour |
| Poblogaeth | 122 |
| Cylchfa amser | UTC−07:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
| Sir | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 70,028 km² |
| Gerllaw | Cefnfor yr Arctig |
| Cyfesurynnau | 72.75048°N 121.50284°W |
| Hyd | 380 cilometr |
![]() | |

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Banks (Saesneg: Banks Island neu Banks Land). Saif i'r gogledd-orllewin o Ynys Victoria, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 114. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin.
Enwyd yr ynys gan y fforiwr Seisnig Syr William Edward Parry yn 1820, ar ôl Syr Joseph Banks. Mae ganddi arwynebedd o tua 70,000 km², a'i chopa uchaf yw Durham Heights (732 medr). Crëwyd Parc Cenedlaethol Aulavik yng ngogledd yr ynys, yn nalgylch afon Thomsen.
