Y glust allanol
Enghraifft o'r canlynol | chiral organism subdivision type, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | israniad a rhan arleisiol o'r pen, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | clust |
Cysylltir gyda | y glust ganol |
Yn cynnwys | godre'r glust, external ear canal, drwm y glust |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y glust allanol yw rhan allanol y glust, ac sy'n cynnwys godre'r glust (hefyd pinna) a pibell y glust. Mae'n casglu egni sain a'i ganoli ar dympan y glust (pilen tynpanaidd).
Strwythur
[golygu | golygu cod]Godre'r glust
[golygu | golygu cod]Mae'r rhan weladwy yn cael ei galw'n odre'r glust, ac mae'n cael ei adnabod hefyd fel y pinna, yn arbennig mewn anifeiliaid eraill. Mae wedi'i gyfansoddi o blat denau o gartilag melyn elastaidd, wedi'i orchuddio a chroen, ac wed'i gysylltu a rhannau amglychynol gan dennynau a chyhyrau; ac at flaen pibell y glust gan feinwe edafeddog. Gall nifer o famaliaid symud y pinna (gyda'r cyhyrau clustiol) er mwyn canoli eu clyw i gyfeiriadpenodol mewn ffordd debyg iawn i'r modd maen nhw'n symud eu llygaid. Nid yw'r gallu hwn gan rhan fwyaf o fodau dynol.[1]
Pibell y glust
[golygu | golygu cod]O'r pinna mae tonnau sain yn symud i gyfeiriad pibell y glust (hefyd yn cael ei adnabod fel y cyntedd acwstig allanol) tiwb syml sy'n rhedeg trwyddo i'r glust ganol. Mae'r tiwb hwn yn arwain am i mewn o waelod godre'r glust ac yn ac yn cludo'r disgryniadau o'r ceudod tympanaidd ac yn chwyddo amleddau yn yr ystod 3 kHz i 12 kHz.