Tennyn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ligament)
Tennyn
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathmeinwe gyswllt, general anatomical term Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adnabyddir tendonau hefyd fel gewynnau, am yr erthygl hwnnw gweler tendon.

Mae tennyn, gewyn neu ligament, mewn anatomeg, yn cyfeirio at dri math o strwythur o fewn y corff:

  1. Meinwe gyswllt ffibrog sy'n cysylltu esgyrn ag esgyrn eraill. Gelwir weithiau yn "dennyn cymalol", "tennyn ffibrog", neu "gwir dennynau".
  2. Plyg y peritonewm neu bilen arall.
  3. Gweddillion y system tiwbaidd o'r cyfnod ffoetaidd o fywyd.

Y math cyntaf yw'r un a gyfeirir ato gan amlaf gyda'r term 'tennyn'.

Desmoloeg yw'r enw am yr asudiaeth o dennynau, daw o'r Hen Roeg δεσμός, desmos, "tant" neu "llinyn"; a -λογία, -logia.

Tennynau peritonewm[golygu | golygu cod]

Cyfeirir at rhai o blygiau'r peritonewm fel tennynau.

Mae esiamplau yn cynnwys:

Tennyn gweddill ffoetaidd[golygu | golygu cod]

Cyfeirir at rhai strwythrau tiwbaidd sy'n weddill o'r cyfnod ffoetaidd fel tennynau ar ôl iddynt gau a throi i mewn i drwythrau tebyg i linyn:

Ffoetws Oedolyn
ductus arteriosus ligamentum arteriosum
Rhan rhagorol-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws ligamentum teres hepatis ("tennyn crwn yr iau").
Rhan mewn-hepatig gwythïen wmbilig chwith y ffoetws (y ductus venosus) ligamentum venosum
Rhannau distal rhydweli wmbilig chwith a dde y ffoetws medial umbilical ligaments

Tennyn cymalol[golygu | golygu cod]

Yn y ffurf a gyfeirir ato gan amlaf, rhwymyn byr o meiwe gysylltol rheolaidd dwys sy'n galed a ffibrog yw tennyn . Cyfansoddir yn bennaf o ffibrau hir llinynnog colagen. Mae tennynau'n cysylltu esgyrn at esgyrn eraill i ffurfio cymal. (Nid ydynt yn cysylltu cyhyrau â'r esgyrn, tendonnau sy'n gwneud hyn.) Mae rhai tennynau'n cyfyngu rhai symudiadau, neu'n atal eraill yn gyfan gwbl.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.