Y glust allanol

Oddi ar Wicipedia
Y glust allanol
Enghraifft o'r canlynolchiral organism subdivision type, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathisraniad a rhan arleisiol o'r pen, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan oclust Edit this on Wikidata
Cysylltir gyday glust ganol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysgodre'r glust, ear canal, drwm y glust Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y glust allanol yw rhan allanol y glust, ac sy'n cynnwys godre'r glust (hefyd pinna) a pibell y glust. Mae'n casglu egni sain a'i ganoli ar dympan y glust (pilen tynpanaidd).

Strwythur[golygu | golygu cod]

Godre'r glust[golygu | golygu cod]

Mae'r rhan weladwy yn cael ei galw'n odre'r glust, ac mae'n cael ei adnabod hefyd fel y pinna, yn arbennig mewn anifeiliaid eraill. Mae wedi'i gyfansoddi o blat denau o gartilag melyn elastaidd, wedi'i orchuddio a chroen, ac wed'i gysylltu a rhannau amglychynol gan dennynau a chyhyrau; ac at flaen pibell y glust gan feinwe edafeddog. Gall nifer o famaliaid symud y pinna (gyda'r cyhyrau clustiol) er mwyn canoli eu clyw i gyfeiriadpenodol mewn ffordd debyg iawn i'r modd maen nhw'n symud eu llygaid. Nid yw'r gallu hwn gan rhan fwyaf o fodau dynol.[1]

Pibell y glust[golygu | golygu cod]

O'r pinna mae tonnau sain yn symud i gyfeiriad pibell y glust (hefyd yn cael ei adnabod fel y cyntedd acwstig allanol) tiwb syml sy'n rhedeg trwyddo i'r glust ganol. Mae'r tiwb hwn yn arwain am i mewn o waelod godre'r glust ac yn ac yn cludo'r disgryniadau o'r ceudod tympanaidd ac yn chwyddo amleddau yn yr ystod 3 kHz i 12 kHz.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]