Neidio i'r cynnwys

Y Tŷ Gwyn

Oddi ar Wicipedia
y Tŷ Gwyn
Mathplasty, adeilad dinesig, atyniad twristaidd, presidential palace Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1 Tachwedd 1800 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 18 g (1792–1800) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCyfadeilad y Tŷ Gwyn Edit this on Wikidata
LleoliadNorthwest Edit this on Wikidata
SirWashington Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau38.8978°N 77.0367°W Edit this on Wikidata
Cod post20500 Edit this on Wikidata
Hyd51.2 metr Edit this on Wikidata
Rheolir ganNational Park Service Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth neoglasurol Edit this on Wikidata
PerchnogaethLlywodraeth Ffederal yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Statws treftadaethNational Historic Landmark, District of Columbia Inventory of Historic Sites Edit this on Wikidata
Cost232,371.83 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Manylion

Cartref swyddogol a phrif weithle Arlywydd yr Unol Daleithiau yw'r Tŷ Gwyn (Saesneg: The White House). Lleolir y Tŷ Gwyn yn 1600 Pennsylvania Avenue NW, Washington, DC, ac fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Gwyddelig James Hoban.[1] Mae e wedi bod yn gartref i bob Arlywydd yr Unol Daleithiau heblaw arlywyddiaeth John Adams.

Ym 1814, yn ystod Rhyfel 1812, cyneuwyd y plas gan y Fyddin Brydeinig, yn dinistrio'r tu mewn i'r Tŷ ac yn golosgi llawer o'r tu allan. Dechreuwyd ailadeiladu bron yn syth, a symudodd yr Arlywydd James Monroe i mewn i'r tŷ, roedd yn rhannol wedi'i ailadeiladu ar y pryd, ym mis Hydref 1817. Aeth adeiladu yn bellach gydag ychwanegu Portico'r De ym 1824, a Phortico'r Gogledd ym 1829. Oherwydd nid oedd dim llawer o le ar gael o fewn y plas ei hun, symudodd yr Arlywydd Theodore Roosevelt bron yr holl swyddfeydd gweithio i Adain Chwith yr adeilad ym 1901. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ehangodd yr Arlywydd William Howard Taft yr Adain Chwith, a chreodd y Swyddfa Hirgrwn cyntaf.

Heddiw, mae Cyfadeilad y Tŷ Gwyn yn cynnwys Preswylfa'r Adran Weithredol, yr Adain Chwith, Ystafell y Cabinet, Ystafell Roosevelt, Adain y Dwyrain, ac Adeilad yr Hen Swyddfa'r Gweithredwr, sydd yn gartref i swyddfeydd gweithredol yr Arlywydd ac Is-Lywydd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]