Y Lagŵn Glas

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Y Morlyn Las)
Jump to navigation Jump to search
Y Bláa lónið o flaen yr orsaf ynni.

Mae'r Lagŵn Glas[1] neu 'Morlyn Glas', (Islandeg: Bláa lónið; Saesneg: The Blue Lagoon) yn sba geothermol ac yn un o atyniadau twristiaeth mwyaf Gwlad yr Iâ.[2] Lleolir y sba ym maes lafa Grindavík ar Benrhyn Reykjanes, yn ne orllewin yr ynys. Mae ei lleoliad yn addas iawn ar gyfer ynni geothermol ac mae'n cael ei diwallu gan ddŵr a ddefnyddir yng Ngorsaf Ynni Geothermol Svartsengi, sydd gyfagos. Gorwedd Bláa Lónið oddeutu 20 km (20 munud) o Faes Awyr Keflavík a 39 km (50 munud) o'r brifddinas, Reykjavík. Nid yw wrth y môr a ni cheir dŵr hallt ynddo; anghywir felly defnyddio'r gair 'morlyn' yn y cyswllt hwn.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Bláa Lónið

Mae'r dyfroedd cynnes yn gyfoethog mewn mwynau fel silica a sylffwr, a honnir bod ymdrochi yn y dŵr yn helpu rhai pobl sy'n dioddef o glefydau croen megis soriasis.[3] Tymheredd cyfartalog y dŵr yn yr ardal nofio yw 37-39C. Mae'r Lagŵn hefyd yn gweithredu cyfleuster ymchwil i helpu i ddod o hyd i iachiadau ar gyfer anhwylderau eraill ar y croen gan ddefnyddio'r dŵr sy'n llawn mwynau.

Darperir y cynnwys mwynol cyfoethog gan yr haenau daearegol o dan y ddaear ac fe'i gwthiwyd hyd at yr wyneb gan y dŵr poeth (ar tua 1.2 MPa (170 psi) pwysedd a 240 °C (464 °F) tymheredd) a ddefnyddir yn yr orsaf. Yn sgîl dwysedd y mwynau, ni ellir ailgylchu'r dŵr ac, felly, rhaid ei waredu yn y tirwedd lleol, sef maes lafa sy'n amrywio mewn trwchder o 50 cm (20 in) i 1 m (3.3 ft). Y mwynau silicad yw prif achos golwg llaeth-las y dŵr hwnnw. Ar ôl i'r mwynau ffurfio gwaddol, mae'r dŵr yn treiddio i'r ddaear, ond mae'r gwaddol yn ei gwneud yn anhydraidd dros amser, ac felly mae'n rhaid i'r orsaf gloddio pyllau newydd yn barhaus yn y maes lafa cyfagos.

Mae'r lagŵn wedi'i chreu gan ddyn ac nid gan natur. Mae'r dŵr yn dod o allbwn dŵr o Orsaf Ynni Svartsengi cyfagos gael ei hadnewyddu bob dau ddiwrnod. Dyma'r orsaf ynni fwyaf yn y byd o'i math. Mae dŵr yn llifo o'r ddaear ger llif lafa ac yn cael ei ddefnyddio i redeg tyrbinau ager sy'n cynhyrchu trydan. Ar ôl mynd drwy'r tyrbinau, mae'r stêm a'r dŵr poeth yn mynd trwy gyfnewidydd gwres i ddarparu gwres ar gyfer system wresogi dŵr trefol. Yna caiff y dŵr ei fwydo i'r lagŵn at ddefnydd hamdden a meddyginiaethol.

Ymdrochi yn y Lagŵn[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan Gwlad yr Iâ gôd hylendid llym a rhaid i westeion gymryd cawod cyn mwynhau'r sba geothermol. Mae'r cawodydd cymunedol yn cael eu rhannu yn ôl rhyw[4].

Ceir mynediad i blant 8 oed ac iau yn unig gydag arwynebwyr, a ddarperir yn rhad ac am ddim. Nid yw'r morlyn yn addas ar gyfer plant dan 2 oed.

Mae'r Lagŵn Glas yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn ramp sy'n ymestyn i'r dŵr a chadeirydd cawod. Ceir ystafell newid breifat hefyd ar gyfer y rheini ag anghenion arbennig, ynghyd â chawod rholio.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Morlyn Las, Bláa Lónið

Yn 1976, ffurfiwyd pwll o'r dŵr gwastraff o'r orsaf ynni gerllaw oedd newydd agor. Yn 1981 dechreuodd pobl ymdrochi yn y pyllau wedi i storïau bod y dwr yn gallu gwella iechyd pobl. Yn 1992 sefydlwyd cwmni y Morlyn Las ac agorwyd y lleoliad i'r cyhoedd.

Mewn blynyddoedd diweddar mae amwyr gwmni wedi gwerthu a marchata'r llaid o'r lagŵn am eu gallu i wella anhwylderau, er bod marc cwestiwn ar effeithiolrwydd y cynnyrch yma.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [http://geiriaduracademi.org lagŵn sy'n cael ei ddefnyddio gan Eiriadur yr Academi (gol Bruce Griffiths...)
  2. "Blue Lagoon". https://guidetoiceland.is/travel-iceland/drive/blue-lagoon. Adalwyd 9 Tachwedd 2014.
  3. "Iceland's Energy Lessons". 5 April 2008. http://www.newsweek.com/id/130626.
  4. http://www.bluelagoon.com/plan-your-visit/changing-rooms/